Rhif y Ddeiseb: P-06-1473

Teitl y ddeiseb: Lleihau bil treuliau Aelodau o’r Senedd

Geiriad y ddeiseb:  O ystyried y sefyllfa ariannol bresennol y mae pob teulu yng Nghymru yn ei hwynebu, gan mai swydd yw bod yn Aelod o’r Senedd, rwy’n cynnig na ddylai’r treuliau y mae Aelodau o’r Senedd yn eu hawlio gynnwys costau y mae pob aelwyd arall yng Nghymru yn eu hysgwyddo, felly dim talu biliau cyfleustodau, y dreth gyngor, rhent na chostau gwella’r cartref mwyach. Ni ddylid talu mwy na gwerth cyfatebol cost trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer treuliau teithio, a chyfraddau Travelodge y dylid eu talu ar gyfer unrhyw arhosiad mewn gwesty.

 

 


1.        Y cefndir

1.1.            Lwfansau a threuliau'r Aelodau

Mae’r lwfansau y gall Aelodau eu hawlio, gan gynnwys costau teithio, llety a chynhaliaeth, wedi’u nodi yn y Penderfyniad. Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd sy’n pennu’r Penderfyniad. Mae’r Penderfyniad yn nodi manylion y treuliau y gall Aelodau o’r Senedd eu hawlio, y lefelau uchaf y gellir eu hawlio ar gyfer treuliau gwahanol a rheolau ac egwyddorion cyffredinol y mae’n rhaid i Aelodau eu dilyn wrth wneud unrhyw hawliadau am dreuliau. Caiff y Penderfyniad ei adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn a gall fod yn destun rhagor o adolygiadau cyfnodol gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol.

1.2.          Y Bwrdd Taliadau Annibynnol

Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol  y Senedd yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am bennu cyflogau Aelodau, yn ogystal â’u lwfansau eraill, fel costau staffio, teithio a swyddfa.   

Sefydlwyd y bwrdd yn dilyn adolygiad annibynnol o bob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau o’r Senedd yn 2008. Gwnaeth 108 o argymhellion gan gynnwys y dylid sefydlu corff annibynnol i wneud penderfyniadau am lefelau’r cymorth ariannol i Aelodau o’r Senedd.

Yn 2010, sefydlwyd y Bwrdd Taliadau Annibynnol gan Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.

Mae'r Bwrdd yn yn cynnwys Cadeirydd a phedwar aelod o'r Bwrdd a benodir gan Gomisiwn y Senedd am gyfnod o bum mlynedd.

Mae'r Bwrdd yn cyhoeddi ei Benderfyniadau ar ôl ymgynghori â'r rhai y mae'n debygol y byddant yn effeithio arnynt. Mae gwefan y Bwrdd yn nodi sut mae barn y cyhoedd yn cael ei hystyried yn ei waith. Mae’n nodi y cyhoeddir ei holl gynigion ac y bydd y Bwrdd ‘yn ystyried yr holl ymatebion cyn cytuno ar y ffordd ymlaen’. Mae'n rhoi manylion ynghylch sut y gall aelodau o'r cyhoedd gysylltu â'r Bwrdd.

Mae’n ofynnol i’r Bwrdd weithredu mewn modd agored a thryloyw a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ei weithgareddau y mae’n rhaid iddo eu gosod gerbron y Senedd. Mae'r adroddiadau blynyddol, cyfarfodydd y Bwrdd, agendâu a rhagor o wybodaeth am ei weithrediad ar gael ar ei wefan.

Yn ogystal â phennu'r Penderfyniad ar gyflogau a threuliau’r Aelodau, mae’n cynnal adolygiadau thematig o’r cymorth ariannol a ddarperir i Aelodau o’r Senedd.

2.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Comisiwn y Senedd sy’n gyfrifol am weinyddu a thalu lwfansau a threuliau Aelodau o’r Senedd yn unol â’r Penderfyniad a bennwyd gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol. Mae'n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i roi effaith i unrhyw benderfyniad a wneir gan y Bwrdd.

Caiff hawliadau am lwfansau a wneir gan Aelodau o 2008 ymlaen eu cyhoeddi ar-lein ar y System Cyhoeddi Lwfansau.

Mae’n ofynnol i Aelodau o’r Senedd gadw at God Ymddygiad. Mewn perthynas â threuliau a lwfansau, mae’r Cod yn nodi’r canlynol:

§    Rheol 8: Rhaid i Aelodau gydymffurfio â'r rheolau a wneir o bryd i'w gilydd gan Glerc a Phrif Weithredwr y Senedd ar y defnydd o adnoddau a ddarperir i Aelodau gan Gomisiwn y Senedd;

§    Rheol 9: Ni chaiff Aelodau gamddefnyddio taliadau, lwfansau nac adnoddau sydd ar gael iddynt o dan benderfyniad Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.

Ymchwilir i unrhyw gwynion ynghylch achosion honedig o dorri'r Cod gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd ac wedi hynny gan Bwyllgor Safonau’r Senedd.

Wrth ymateb i gwestiynau am lwfansau a threuliau Aelodau o’r Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mai 2024, dywedodd Hefin David AS, Comisiynydd y Senedd dros y gyllideb a llywodraethu y canlynol:

Mae cyllideb ddrafft y Senedd yn cynnwys swm a bennwyd ar gyfer materion yn ymwneud â threuliau Aelodau y mae’r bwrdd taliadau wedi gofyn i ni eu neilltuo. Y newyddion da i chi yw nad yw'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn hawlio'r uchafswm treuliau y mae ganddynt hawl iddo. Credaf ei bod yn werth inni ddatgan hynny'n uchel: nid yw'r Aelodau'n hawlio'r uchafswm treuliau y mae ganddynt hawl iddo. Ac mae hynny'n rhoi cryn dipyn o le i ni fynd i'r afael â threuliau annisgwyl... 

 

 

3.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Comisiwn y Senedd ac nid Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gyflogau, lwfansau a threuliau Aelodau o’r Senedd. Fodd bynnag, Llywodraeth Cymru fydd yn talu costau a ysgwyddir gan Aelodau o’r Senedd mewn rôl fel Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer swyddogaethau gweinidogol ar ran y Llywodraeth megis ymweliadau gweinidogol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.